Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2023
Amser:
09.00 -
09.12
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.15pm.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 10 Hydref 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru (45 munud)
Dydd Mawrth 17 Hydref 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24 (60 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi:
Gwerth Cymdeithasol a Llesiant Economaidd (30 munud)
- gohiriwyd
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 25 Hydref 2023 –
3.4 Cynigion Deddfwriaethol Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 11 Hydref:
Peredur Owen Griffiths
NNDM8368
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) hyrwyddo diogelwch cymunedol yn dilyn nifer cynyddol o ymosodiadau difrifol gan gŵn ledled Cymru gan gynnwys rhai marwolaethau trasig;
b) cyflwyno canllawiau a rheoliadau i unrhyw un sy'n dymuno bod yn berchen ar fridiau cŵn penodol, lle mae'n rhaid i berchnogion gyflawni meini prawf penodol i fod yn berchen ar gi a allai fod yn beryglus;
c) ymgynghori â rhanddeiliaid i sefydlu diffiniad o gi a allai fod yn beryglus;
d) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu partneriaethau i weinyddu'r rheoliadau a chyflawni dull gweithredu cyson ar draws Cymru; ac
e) hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o wella lles anifeiliaid, gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysgu'r cyhoedd ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 15 Tachwedd:
Jenny Rathbone
NNDM8366
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n atal gwerthu e-sigaréts untro.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
(a) atal e-sigaréts untro rhag cael eu gwerthu;
b) cyflawni cyfrifoldebau byd-eang Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
c) mynd i'r afael â'r ffaith bod e-sigaréts untro yn berygl i iechyd y cyhoedd;
d) diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag problemau iechyd gan gynnwys niwed i’r ysgyfaint; ac
e) rhoi’r gorau i ddefnyddio lithiwm mewn cynhyrchion untro.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyllideb 2024-25
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd i adolygu'r amserlen ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft 2024-25 fel y cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd fod y Pwyllgor Cyllid, o ganlyniad, yn bwriadu cwrdd yn ystod y toriad ddydd Mercher 20 Rhagfyr i ddechrau ei waith craffu ar y Gyllideb Ddrafft.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gwneud cais i Aelodau’r Pwyllgor ymgymryd â busnes y Pwyllgor ym Mrwsel
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais, a chytunodd i gais Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Tachwedd 2023 er mwyn ymgymryd â busnes y Pwyllgor ym Mrwsel.
6 Gwaith Gweithdrefnol
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Rheol Sefydlog 26C - Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd
Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl iddo ystyried y Bil Cydgrynhoi cyntaf a gyflwynwyd yn y Senedd, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a chytunodd i gynnal adolygiad cyfyngedig o'r Rheolau Sefydlog perthnasol cyn cyflwyno'r Bil Cydgrynhoi nesaf, a chyn yr adolygiad llawn y bwriedir ei gynnal yn ddiweddarach yn ystod y Senedd hon.